top of page

Gwaith i grwpiau a chyrff cymunedol yn darparu ystod eang o atebion ymarferol yn ogystal a chynyddu cyrhaeddiad a hyder cymunedol.

​

Enghreifftiau o brosiectau cymuned.

Canolfan Y Fron

Gyda chymorth ac arbenigedd Dobson:Owen yn y maes, mae'r grwp cymunedol wedi ennill £1m o arian Loteri i’r prosiect cyffroes yma i drawsnewid cyn ysgol gynradd Bronyfoel, Y Fron yn ganolfan gymuned newydd a fydd yn cynnwys neuadd, caffi a siop i’r gymuned, ystafelloedd newid a llety 18-gwely i ymwelwyr.

 

Mae’r swyddfa eisioes wedi cychwyn ar y gwaith o wireddu’r prosiect ar amserlen dyn, gyda'r her o geisio cwblhau’r gwaith ailwampio ac ymestyn cymleth i’r adeilad Fictoriannaidd hwn mewn pryd i alluogi'r ganolfan agor ddiwedd haf 2018.

 

CLIENT: Grŵp Datblygu Y Fron | GWERTH: £1m | CWBLHAD: Awst 2018 | YMGYNGHORWYR: Datrys, Carpenter Davies, Adeiladol Cyf. | ADEILADWYR: Gareth Morris Construction.

bottom of page